|
Tyddyn bach teuluol yw Nantclyd sydd yn gorwedd yng Nghwm Ystwyth, nepell o Aberystwyth ar arfordir Gorllewin Cymru. Derbyniodd statws Tyddyn Organaidd y Soil Association yn 1989. Fferm o 30 erw yw hi, yn cynnwys coed a chorsdiroedd.
Mae Nantclyd yn gartref i amrediad eang o blanhigion a bywyd gwyllt. Yn 2002 enillodd y fferm Wobr Loraine am gadwriaweth.
Fferm yw hi sy’n cynhyrchu wyau a ieir, llysiau tymhorol a ffrwythau meddal, ynghyd a phraidd o ddefaid Poll Dorset pedigree.
Gwerthir wyau a llysiau wrth giat y fferm, i weld beth sydd ar gael yr wythnos hon, ewch at dudalen nwyddau’r fferm.
|